Home
Home

GREEN LAND DESIGN DYLUNIO’R TIR GLAS

We ask a lot of questions. We’re not afraid to disagree. We care about your project. We work really hard when it’s busy, and then take time off for other interests (including sleep) when it’s not. More than anything, we want you to be happy.

We bring together busy, lively, interesting people - this includes you! - that care about your project, have the right skills to make it happen, and are happy to take part.

Simon & Kara (Eglwysbach) are your main points of contact, and are here with you, doing whatever’s necessary whenever it’s necessary. Our extended family varies from project to project, but we’re delighted to be able to call upon Owen (Paris), not only our superb translator, but he also has an eagle eye for tautology and verbosity, and writes award-winning novels; Terra, our social activist/design gal on the scene in Vancouver; Dave (NY), a programming genius that loves to help us figure stuff out. And then there is you, our dear client. You people are from all OVER the place!

R’yn ni’n hoffi gofyn cwestiynau – a fyddwn ni ddim yn ofni anghytuno â chi chwaith! R’yn ni’n gweithio’n galed ar eich prosiect ac yn cymryd gofal gwirioneddol drosto. Weithiau mae’n rhaid anghofio am y syniad delfrydol o “weithio oriau penodedig” - mae yna ddigon o amser ar gyfer pethau eraill (cysgu, er enghraifft) ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Yn fwy na dim, r’yn ni eisiau i chi fod yn hapus.

Mae ein tîm yn tynnu at ei gilydd dalentau amrywiol a niferus – ac mae’r talentau hynny’n eich cynnwys chi, wrth gwrs! Fe fyddwn ni’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau llwyddiant eich prosiect. Mae gyda ni’r sgiliau angenrheidiol, y gallu, a’r brwdfrydedd i lwyddo ac fe fyddwn ni’n falch iawn i weithio gyda chi.

Simon & Kara (Eglwysbach) fydd yn gweithio gyda chi o ddydd i ddydd. Fe fyddwn ni yma i wneud beth bynnag sydd angen ei wneud ac i sicrhau bod popeth yn dod i ben yn brydlon. Mae ein “teulu estynedig”, fel petai, yn estyn ar hyd y byd ac r’yn ni’n falch iawn i allu manteisio ar arbenigedd y canlynol: Owen (Paris), fydd yn cyfieithu, yn prawf-ddarllen ac yn cadw llygad barcud ar eich treigladau (mae e hefyd yn ysgrifennu nofelau); mae Terra yn gweithio fel dylunydd yn Vancouver ac yn arbenigo mewn prosiectau cymdeithasol; ac mae Dave (Efrog Newydd) yn athrylith technolegol sydd wrth ei fodd yn datrys problemau fyddai’n gwneud i’r rhan fwyaf o bobl wylo dagrau hallt. Fe fyddwn ni i gyd yn falch iawn i weithio gyda chi.

Contact Cysylltu